Mae rheolwr cwmni ffensio sy’n cyflogi 20 o bobol yng Ngwynedd yn pryderu fod y gadwyn gyflenwi coed a dur wedi arafu a bod y prisiau yn dal i godi.

Yn ôl Huw Jones, sy’n Rheolwr cwmni North Wales Fencing ar gyrion dinas Bangor, mae ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd yn ychwanegu at y broblem.

Mae’r cwmni, sy’n bodoli ers 40 mlynedd, yn gweithio ar draws y gogledd a dros y ffin yn Swydd Gaer, gan ddarparu gwasanaeth ffensio coed a dur i fusnesau, cwsmeriaid preifat, ac awdurdodau lleol.