Anodd yw meddwl am unigolyn arall oedd yn ymgorfforiad mor gyflawn o stori wleidyddol Cymru, dros y ganrif ddiwethaf. Gan ymuno â Phlaid Cymru yn fachgen ifanc yn yr 1940au, ac yna sefyll mewn tri etholiad cyffredinol, daeth Elystan Morgan yn rhan flaenllaw o’r ymdrechion cynnar i sefydlu cenedlaetholdeb Cymreig yn rym etholiadol. Er yr edmygedd iddo yn y cylchoedd hynny, yn wyneb rhwystredigaeth gynyddol a sefydlu’r Swyddfa Gymreig yn 1964, penderfynodd mai hyrwyddo’r achos cenedlaethol o fewn