Yn yr oes ryfedd sydd ohoni, mae rhannu llun o’ch hun mewn ‘het fwced’ yn ddigon i ddenu llid y Twitter-sffêr, mae’n debyg.

Wythnos ddiwetha’, ar ddechrau gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Twrci, mi rannodd Mark Drakeford lun o’i hun yn cefnogi Cymru.

Roedd yn eistedd yn ei swyddfa mewn bucket hat coch, gwyrdd, a melyn; a chwarae teg roedd e’n gwylio’r cyfan ar S4C – byddai Malcolm Allen yn gorfoleddu o wybod bod ein Prif Weinidog yn dilyn ei ddoethinebu yntau, mae’n siŵr!