Pan gafodd Marvin Thompson, athro Saesneg yn Ysgol Llyswyry yng Nghasnewydd, y newyddion ei fod wedi ennill y National Poetry Competition – anrhydedd sydd wedi ei rhoi i fawrion fel Carol Ann Duffy yn y gorffennol – fe sgrechiodd yn uchel.

“Roedd yn ddoniol iawn,” meddai wrth Golwg. “Cefais yr alwad ffôn yn y car… ar ôl i fi sgrechian, edrychodd fy mhlant arna i yn syn, a gofyn: ‘Beth sy’n digwydd, Dad – wyt ti’n iawn?’