Trwy sicrhau digon o gymorth ariannol, mi all Llywodraeth Cymru leddfu’r pryderon am y dyfodol ymhlith busnesau’r wlad.

Dyna farn Luke Fletcher, llefarydd newydd Plaid Cymru ar yr Economi ac aelod ifancaf Senedd Cymru.

Mae adroddiad diweddar gan Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) Cymru yn taflu goleuni ar agweddau ymysg pobol fusnes Cymru tuag at y pandemig.