Aeth Non Tudur am sgwrs gydag arlunydd sy’n paentio’r darluniau rhyfeddaf erioed o greaduriaid y maes…

A welsoch chi erioed lwynog coch yn cripian yn slei bach tuag at gywion ieir? Neu fwncath yn syllu â’i lygaid gloywon ar lygoden fach ddiamddiffyn yn y cae oddi tano? Neu o leia’ gath yn cropian wysg ei bola draw at lwyn a hwnnw’n llawn adar bach?