Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Mi orffennais Y Wraig ar Lan yr Afon, Aled Jones Williams, neithiwr jyst mewn pryd ar gyfer sesiwn rithiol ein clwb darllen, Clonc a Phlonc. Fedra i ddim honni i mi ddeall y ‘chwedl’ hon ar un darlleniad (bydd raid ei darllen eilwaith) ond doedd dim ots am hynny. Mae dawn Aled i drin geiriau, ei ddychymyg a’i ddyfeisgarwch di-ben-draw a’i allu i wthio ffiniau yn rhyfeddol. Rwy’n edmygydd mawr ohono.