Un o’r ychydig iawn o bethau da am wylio gemau heb gefnogwyr yw’r cyfle i glywed y chwaraewyr yn cyfathrebu gyda’i gilydd ar y cae. Ond mae yna lot o synau eraill i’w clywed hefyd. Ac yr un sydd wedi tynnu fy sylw yn ddiweddar yw sgrechiadau chwaraewyr pêl-droed sydd wedi ‘brifo’.