Bu’r Dirprwy Lywydd yno o’r cychwyn cyntaf yn 1999.

Wrth edrych yn ôl ar yrfa wleidyddol faith, mae Ann Jones yn dweud wrth Golwg mai’r foment felysaf oedd cael ei hethol i’r Cynulliad cyntaf yn 1999.

Ar hyd y blynyddoedd mae’r sefydliad wedi cael mwy o rymoedd dros ein bywydau, ac mae’r Dirprwy Lywydd bellach yn galw’r lle yn “Senedd lawn” sy’n gaffaeliad i’r genedl.