Yn niffyg oriel gelf genedlaethol, bydd cyfle i chi weld gweithiau gan rai o’r mawrion yng Ngheredigion yn fuan…

Bydd posib teithio i Aberystwyth i weld gweithiau gan arlunwyr enwog fel Albrecht Dürer, Patrick Heron, Ceri Richards, a Rembrandt van Rijn o hyn ymlaen.

Mae’r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i gael rhai o weithiau gwerthfawr yr artistiaid enwog yma yn rhodd arbennig gan awdurdod lleol yn Lloegr.