Mi fydd hi’n rhyfedd heb bêl-droed lleol dros y Nadolig. Mae’r adeg yma wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y gêm ers y dyddiau cynnar. Nid gêm gystadleuol oedd hi i ddechrau yng Nghymru, ond rhywbeth hamddenol i chwarae ar ôl mynd i’r eglwys. Mae yna gofnod o bêl-droed yn cael ei chwarae ar ôl y Gwasanaeth Sul yng nghae’r eglwys ym Mangor mor gynnar â 1801. Dydy hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod yna gae pêl-droed neu rygbi yn aml ger eglwysi yng Nghymru.
gan
Phil Stead