Mae’r ferch o Rydaman yn actio ‘Dani’ ar Pobol y Cwm ers pan oedd hi’n 21 oed. Bellach yn 34, mae hi’n byw ym Mhorthcawl gyda’i mab Hari sy’n ddwy a hanner…

Sut mae ‘Dani’ wedi newid ar hyd y blynyddoedd?

Daeth hi mewn yn 2007 yn gwneud community service efo Cath Jones, ac roedd hi’n ferch braidd yn lairy, ddim wir yn becso ambyti neb na dim byd – ond roedd ei theulu yn bwysig iawn iddi hi.