Mae cwmni distyllu jin o dde Ceredigion, sydd wedi ennyn canmoliaeth frwd gan neb llai na Llywydd y Senedd, yn y ras i ennill medal am eu jin Cymreig yng nghystadleuaeth Gin Masters 2020.

Eisoes yr wythnos hon mae cwmni In The Welsh Wind wedi cipio’r fedal efydd mewn cystadleuaeth i wirodydd yn America [USA Spirit Ratings].