Be’ yn union ydy ‘Deli Derfel’?

Sit-com sydd wedi ei ysbrydoli gan y cyfnod pan wnes i weithio mewn caffis a bariau, ar ôl graddio…

Dw i’n actio ‘Derfel’ sy’n self-confessed seleb Cymraeg, ac un o’i claims-to-fame o ydy bod fideo ohono yn perfformio un o ganeuon Elin Fflur wedi cael 34 likes… ar ôl hynny mae o’n meddwl bod pawb yn dre’ yn ei ’nabod o.