Dydy’r aer ddim mor drwchus ag oedd o’r tro diwethaf. Yr adeg hynny, roedd yr haul yn drwm o’n cwmpas i gyd, a’r ardd yn lliwiau ifanc, newydd. Yr adeg hynny, roedd rhwygo pobol oddi wrth ei gilydd yn boen sydyn, yn giaidd, yn syndod. Mae hiraeth yn perthyn i’r haf, pa bynnag ofid sydd wedi dwyn unigolion o fywydau eu hanwyliaid. O’r blaen, roedd yna flodau a gwres a gobaith. O’r blaen, roedd rhyddhad yn mynd i ddod un diwrnod, a’r bobol am fod yn berchen ar ei gilydd ac ar eu rhyddid unwaith et