Mae’r archifydd yn un o’r bobol wnaeth fanteisio ar y cyfnod clo i ddechrau dysgu Cymraeg. Mae yn byw yng Nghaerlŷr, wedi ei geni yng Nghaerdydd, a’i magu yn Lloegr a’r Almaen…
Pam wnaethoch chi fynd ati i ddysgu siarad Cymraeg?
Rydw i wastad wedi bod eisiau dysgu Cymraeg, felly pan ges i fy rhoi ar ffyrlo wnes i benderfynu cychwyn arni.
Wnes i ddarganfod dosbarth dysgu Cymraeg sy’n digwydd ar Zoom.