Angharad Gwyn yw perchennog siop a gwefan Adra. Mae hi’n byw yn Llandwrog yng Ngwynedd yn y tŷ lle bu ei gŵr, Ifan Prys, yn byw ers oedd e’n chwech oed…

Hanes teuluol

Dw i wedi byw yn y tŷ yma’n Llandwrog ers Ionawr 2007 ond mae fy ngŵr, Ifan, wedi byw yma ers oedd o’n 6 oed! Hen gartref ei rieni ydi o, mi brynodd Ifan y tŷ oddi arnyn nhw pan symudon nhw i hen fferm y teulu yn Llangybi.

Ar ôl ei rentu allan am ychydig flynyddoedd tra’r oedden ni’n byw yng Nghaerdydd, roedd yn gyfleus iawn pan benderfynon ni symud yn ôl i’r Gogledd. Doedd o ddim y math o dŷ fyddai wedi denu fy sylw pe bawn i’n chwilio o’r newydd, ond rŵan fy mod wedi cael ei drawsnewid i fy chwaeth i a’n ffordd ni o fyw, dw i’n annhebygol o ddewis ei adael am dŷ arall!

Tŷ cyfoes ydi o, a gafodd ei adeiladu yn y saithdegau hwyr yn rhan o stad newydd o dai. Yr hyn sy’n reit ddiddorol am y stad ydi fod pob un tŷ yn wahanol.

Mae Llandwrog yn bentref tlws iawn, a chafodd ei gynllunio a’i adeiladu gan yr Arglwydd Newborough yn rhan o stad Glynllifon. Mae rhyw 10 munud i ffwrdd o Rostryfan, y pentref lle cefais fy magu a rhyw 5 munud i ffwrdd o draeth Dinas Dinlle. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r pentref a’r ardal ers erioed, bu i fy nhad rannu tŷ yma gyda ffrind ar un adeg ac mae’n debyg mai yn nhafarn Ty’n Llan y cafodd Mam a Nhad eu ‘dêt’ cyntaf! Ond oherwydd bod fy ngŵr wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd yma, mae wedi bod yn hawdd iawn dod i adnabod y trigolion ac mae’n bentref cymunedol iawn. Dw i’n teimlo’n falch a breintiedig iawn o gael byw yma.

Bathrwm afocado ac artex

Roedd y tŷ yn dal i gynnwys nodweddion gwreiddiol y saithdegau a’r wythdegau pan symudon ni i mewn – gan gynnwys bathrwm afocado, papur wal, carpedi trwm a lot o artex!

Roeddan ni eisoes wedi gwneud y tŷ ychydig mwy niwtral ar gyfer ei rentu gan gynnwys tynnu papur wal, paentio teils y gegin a’r stafelloedd ymolchi, paentio pob man yn wyn a gosod carpedi plaen. Pan benderfynon ni ei wneud yn gartref hir dymor i ni’n hunain fe aeth y gwaith yn dipyn mwy uchelgeisiol. Estyniad cyfoes ar y stafell fyw, tynnu’r ‘pebble dash’ a rhoi rendr gwyn a chladin cedrwydd ar y tu allan, ffenestri a drysau newydd, tynnu ambell wal, tynnu ac ail-adeiladu porch, gosod cegin ac ystafelloedd ymolchi newydd, gosod lloriau llechen a derw, ail-wneud y gerddi – does yna unlle sydd heb weld morthwyl neu frwsh paent!

Pensaer

Cafodd y cynlluniau ar gyfer yr estyniad a’r makeover allanol eu gwneud gan y pensaer Maredudd ab Iestyn. Roedd fy nhad yn bensaer hefyd a dw i’n credu’n gryf mewn cael cyngor arbenigol pan yn gwneud gwelliannau i unrhyw adeilad – maen nhw wastad yn medru meddwl am syniadau nad ydach chi wedi meddwl amdanyn nhw eich hun. Roedd siâp y tŷ yn reit gyfoes beth bynnag, ond mae’r gorffeniad allanol yn wahanol iawn i weddill tai’r stad erbyn hyn. Mae’n dy golau ac agored sy’n berffaith i ddiddanu ffrindiau a theulu, rhywbeth rydan ni’n mwynhau ei wneud yn arw.

Rydan ni wedi talu am ddylunwyr i’r ardd hefyd ac er ein bod bob tro’n cyflogi adeiladwyr i wneud gwaith arbenigol rydan ni hefyd wedi gwneud lot o waith labro ein hunain er mwyn arbed arian – treuliodd Ifan a finnau ddyddiau ar ben scaffold yn paentio tu allan y tŷ!

Llechi a derw

Mae Cymru heb os yn ysbrydoliaeth fawr – o’r llechi a’r derw sy’n rhan annatod o’i thirwedd i gelf ac addurniadau sy’n adlewyrchu ein hiaith a’n treftadaeth. Mae fy chwaeth i’n gyfoes ac eitha’ minimal, gyda llwydlas, gwyn a phren yn lliwiau cyffredin drwyddo draw, ond mae lot o liw yn cael ei ychwanegu trwy gelf a chlustogau ac ati a dw i’n hoff o gasglu manion-bethau. Mae’r llythyren ‘A’ yn frith dros y tŷ!

Fel perchennog siop a gwefan Adra, dw i’n dueddol o brynu pethau y baswn i’n eu hoffi yn fy nhŷ fy hun felly mae lot o’r stoc yn ffeindio’i ffordd i mewn i’r tŷ. Dw i’n sicr yn dueddol o ffafrio dodrefn Sgandinafaidd a siopau cyfoes fel Habitat ac Ikea. Ond dw i’n hoff iawn o’u cymysgu gyda hen atodion – mae gen i sawl llun gan fy Nhaid, Elis Gwyn, darn mawr o frodwaith mewn ffrâm gan fy Nain, a phob math o drugareddau bach oedd yn arfer bod yn hen gypyrddau gwydr y teulu. Mae yma bedair cadair eisteddfodol y mae fy ngŵr Ifan Prys wedi’u hennill hefyd.

Adra

Does dim dwywaith fod teimlad cryf iawn o Gymreictod yn y ty yma. Mae fy nghartref yn adlewyrchu cefndir a diddordebau’r sawl sy’n byw yma, a dw i’n teimlo y dylai pob cartref wneud hynny. O’r silffoedd llyfrau i’r celf ar y waliau a’r offerynnau a’r hen greiriau – mae hanes tu ôl i bopeth ac yn adrodd stori’r rhai sy’n byw yma.

Cyngor

Rydan ni wedi cyfaddawdu lot ar y gorffeniad dros y blynyddoedd a dw i’n difaru hynny erbyn hyn. Ond mae’n siŵr mai dim ond fi sy’n sylwi ar y pethau hynny. Cofiwch y bydd rhaid i chi fyw efo pob penderfyniad!