Mae caneuon Kentucky AFC bellach ar gael i’w ffrydio ar y We… esgus perffaith, felly, i hel atgofion am un  o fandiau gorau’r Sîn…

Am gyfnod yn negawd cynta’r ganrif hon, Kentucky AFC oedd Y band Cymraeg gorau oedd i gael.

Rhwng 2001 a 2007, wnaethon nhw greu rhai o ganeuon roc mwya’ ffyrnig, melodig a deinamig y Sîn Roc Gymraeg.

Gyda tiwns tew a riffs tewach, roedden nhw ben ag ysgwydd uwchben pawb arall.

Ac mae cyfle wedi dod i’r hen ffans ailddarganfod eu pleserau, ac i rai newydd ddod yn gyfarwydd â chaneuon gwych megis ‘Bodlon’, ‘11’ ac ‘Eithaf Peryg’.

Mae dwy albym, EP a sengl y triawd wedi eu gosod ar spotify ac ati, er mwyn i chi allu eu ffrydio nhw.

Wnaethon nhw ryddhau’r albym Kentucky AFC yn 2004 ac mae hi’n glasur, heb unrhyw os nac oni bai!

Mae’r albym yn agor gyda’r bangar ‘Be Nesa?’, yn gosod y safon sy’n cael ei gynnal ar y dwshin o ganeuon eraill sydd yn y casgliad.

Efallai mai’r orau ydy ‘Bodlon’ – cân glyfar gyda chytgan lle mae’r band yn canu ‘a dwi mor hapus’ – heb swnio felly.

Hefyd ar yr albym mae ‘Ci Tawel Sy’n Cnoi’ sy’n dalp o roc budur, angsti.

Ac mae’r hyfryd ‘Ffeindio Esgus’ yn cychwyn fel cân country and western, cyn troi yn bync melodig llawn egni. Mae’r newid o’r un steil i’r llall yn wefreiddiol o effeithiol.

Roedden nhw yn hen hogiau talentog, triawd y Kentucky AFC

Roedd ganddo chi’r basydd Huw Owen, aeth yn ei flaen yn ddiweddarach i sefydlu ei hun fel Mr Huw a recordio llwyth o albyms gyda chaneuon chwareus megis ‘Ffrind Gora Marw’, ‘Gwyneb Dod’ a ‘Twll Gogoniant’.

Y drymiwr oedd Gethin Evans, sy’ wedi blasu llwyddiant cerddorol rhyfeddol gyda’r Genod Droog a Band Pres Llareggub.

A chanwr a gitarydd Kentucky oedd Endaf Roberts, clasur o ffryntman tawel oedd yn gwneud ei siarad yn ei ganeuon.

Ers i’r band chwalu mae wedi canu dan yr enw Endaf Presli ac wedi bod yn rhan o’r band Pry Cry gyda’i frawd Gronw aka y rapiwr hip-hop Tew Shady.

Mynd ar y bws i Lundain

Yr hyn sy’n rhyfeddod, wrth holi basydd y band yn y flwyddyn 2020, yw darganfod mai dau foi yn arbrofi gyda miwsig electronig oedd man cychwyn y band roc gitâr seminal, Kentucky AFC.

Ar droad y ganrif roedd Huw Owen ac Endaf Roberts mewn band roc o’r enw Cacan Ŵy Experience, ac yn dablo mewn cerddoriaeth electronig ar y slei.

Huw Owen

Roedd Huw o Chwilog ac Endaf o Nefyn, wedi bondio dros fiwsig tra ar drip ysgol, yn 12 oed.

“Wnaethon ni daro ar berthynas ar fys i Lundain, efo mutual appreciation am Poodle Rock,” cofia Huw Owen.

“Roedd Endaf yn eistedd tu ôl i fi, yn gwrando ar Motley Crüe, a finnau yn eistedd o’i flaen o yn gwrando ar Wasp.”

Mi fuon nhw yn jamio am blwc cyn ffurfio’r Cacan Ŵy Experience, yn chwarae caneuon roc.

“Tra’r oedd Cacan Ŵy yn mynd ymlaen, roedd Kentucky AFC jesd fatha ryw broject bach,” cofia Huw Owen.

“Roeddwn i wedi prynu peiriant recordio pedwar trac, ac roedd Endaf a fi yn chwarae non-stop ar hwnnw…

“Wnaeth o ddechrau yn rhywbeth electronig, arbrofol, a morffio wedyn i mewn i rywbeth roedden ni yn gallu chwarae yn fyw.”

Yn y dyddiau cyn i’r We gydio go-iawn yn sgrepan y Sîn Roc Gymraeg, roedd y ddau ffrind yn anfon demos o’r caneuon at labeli recordiau, cwmnïau teledu a gorsafoedd radio.

“Gyrru casetiau i ffwrdd efo breibs o roi fferins yn y jiffy bag, i wneud i bobol deimlo fod yna fwy o reidrwydd arnyn nhw i wrando,” eglura Huw Owen.

Fe gawson nhw gynnig gig yng Nghlwb Ifor Bach gan Huw Stephens, oedd yn rhedeg y label recordiau Boobytrap a fyddai yn cyhoeddi albym gynta’ Kentucky AFC.

Daeth cynnig i recordio sengl hefyd – ond roedd angen drymar…

Dyma Huw Owen yn dod ar draws Gethin Evans mewn pyb yn Porthmadog, ac roedd y ddau yn adnabod ei gilydd gan bod band Huw (Cacan Ŵy) wedi chwarae mewn gigs gyda hen fand Gethin (Hyrbi).

“Digwydd bod, wnaeth pethau weithio allan yn well na’r disgwyl,” meddai Huw Owen.

Claddu Kentucky

Erbyn 2007 roedd y band yn tynnu tua’r terfyn, a’r cynllun oedd rhyddhau ail albym a gwneud taith ffarwel.

FNORD ydy enw’r casgliad olaf, ac er nad ydy hi’n cyfrif fel ‘albym goll’, mae hi’n sicr yn llai cyfarwydd na’r gynta’ – dim ond yn y gigs ffarwel yr oedd cyfle i’w phrynu.

Daeth tri aelod Kentucky i’r casgliad bod angen taith deilwng i gladdu’r band, cyn i bethau fynd yn stel.

“Roedda ni wedi cyrraedd ryw bwynt lle’r oeddan ni fel: ‘Lle’r ydan ni’n mynd o fama?’” cofia Huw Owen.

“Ti’n cyrraedd ryw bwynt lle’r wyt ti wedi hedleinio Maes B dwy neu dair o weithiau, gwneud hyn a’r llall, a ti’n teimlo fel dy fod ti yn mynd rownd mewn cylchoedd yn chwarae i’r un un bobol eto.

“Os nad wyt ti wedi cael yr hwb i wneud y naid yna beyond Cymru, math o beth, am faint o hir wyt ti’n mynd i fod yn trio fflogio dy hun a throi fewn i rywbeth ti’n gasáu yn y diwedd?”

Ond roedd Kentucky AFC wedi gwneud diwrnod da o waith yn y Sîn Roc Gymraeg, yn ei chynnal hi ar adeg pan oedd bandiau amlwg fel Anweledig, Big Leaves a Topper wedi cilio o’r llwyfan.

“Roedd o’n od, achos bod pawb i weld yn diflannu tua’r un pryd,” meddai Huw Owen am y cyfnod.

“Wnaeth Big Leaves ddod i ben, Topper dod i ben, Anweledig yn tawelu, a doedd gen ti ddim dy hedleiners mawr, math o beth.

“Felly roedd amseru’r peth i ni yn brilliant… a pan wnaethon ni ddechrau hefyd, dw i’n cofio ni’n gwneud ein Steddfod gynta’ ni, ac roedd Texas Radio Band a Pep Le Pew wrthi, a ddaethon ni gyd i amlygrwydd yr un pryd…

“Roedda ni’n chwarae lot efo Texas Radio Band, Zabrinski, MC Mabon.

“Ac roedd yna lot o gigs yn digwydd, ac roedda ni yn eitha’ gweithgar yn chwilio am gigs neu drefnu gigs.

“Gwneud Teithiau Tew a phethau felly. Roedd y rheina yn brilliant. Wedi eu gwneud efo mewnbwn pawb… ni oedd yn printio ticedi, cymryd y pres wrth y drws… ethic DIY mawr iddo fo, yn hytrach na disgwyl i ryw fenter iaith gynnig grant i wneud gig.”

Ewch i chwilio am ‘Ffilm am daith olaf Kentucky AFC’ ar YouTube, i gael blas o ddiwedd cyfnod.

Gair gan Geth

Drymiwr Kentucky AFC yw unig aelod y band i wneud y naid o’r Sîn Roc Gymraeg i borfeydd bras y cyfryngau Cymraeg.

Mae Gethin Evans yn un o leisiau Radio Cymru, ac yn dweud fod gosod caneuon ei hen fand ar y We yn uchelgais ers peth amser.

Gethin Evans

“Mae’n braf cael rhyddhau ôl-gatalog Kentucky AFC, o’r diwedd!

“Ar ôl blynyddoedd o feddwl am y peth, mae’r cyfnod yma wedi rhoi’r amser i ni yrru e-bost i’n gilydd i gytuno i ryddhau’r ddwy albym, sengl a’r EP

“Mae gwrando ar y deunydd yn dod a lot o atgofion o fod yn aelod o Kentucky AFC  – yn benodol y gigs anhygoel oedden ni fel tri yn cael y fraint o berfformio ynddyn nhw.

“Mae’n amhosib dewis un gig, un ŵyl, un perfformiad fel yr uchafbwynt – mae yna gymaint, ac mae o i gyd yn ’chydig o blur.

“Mae bod mewn band yn brofiad unigryw – mae ’na recordio a gigio, ond mae 90% o’r amser yn cael ei dreulio yn disgwyl i chwarae neu yn teithio i rywle.

“Ac yn yr adegau yma dw i’n edrych yn ôl ar fy nghyfnod i hefo’r band gyda gwerthfawrogiad a gwên. Y cyfeillgarwch a’r hwyl. Faswn i methu gofyn am ddau well i rannu’r profiadau a gafwyd fel Kentucky AFC. Dw i’n ’nabod Huw ac Endaf mor dda oherwydd y ’disgwyl i fynd i chwarae’, mi fedrwn i ddweud wrth edrych ar unrhyw fwydlen yng Nghymru be fyddai’r ddau yn ddewis. Er gwybodaeth  – bagette i Huw a BBQ / Hunters Chicken i Endaf.

“Roedd o wir yn gyfnod cyffrous, a digwydd bod, roedd Huw ac Endaf yn gallu ysgrifennu caneuon anhygoel roeddwn i yn gallu waldio dryms iddyn nhw.”

***

Mae pennawd y Babell Roc yn ddyfyniad uniongyrchol o’r geiriau ar gychwyn y gân ‘11’ gan Kentucky AFC.

Geiriau cynta’r gân yw ‘tro fo fyny i un ar ddeg, un yn fwy, un yn fwy na deg’…

Fe gawson nhw eu hysbrydoli gan olygfa enwog yn y ffilm Spinal Tap.

Yn y rock mockumentary o 1984, mae’r gitarydd ‘Nigel Tufnel’ yn brolio bod ei amp yn mynd fyny i un ar ddeg – tra mae amps pawb arall ond yn mynd fyny i ddeg.