Mae’n eironig bod cadair syml oedd yn eitem gyffredin mewn ffermdai a bythynnod yng Nghymru yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif bellach yn gwerthu am filoedd o bunnoedd.

Mae’r diddordeb mewn cadeiriau cefn ffyn Cymreig, a fyddai wedi cael eu gwneud gan seiri a chrefftwyr ar gyfer pobl leol, wedi cael dipyn o adfywiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf – nid yn unig yng Nghymru ond ym mhen draw’r byd.