Sut wnaethoch chi ddathlu ennill y wobr ‘Ffilm Antur Orau’ yng Ngŵyl Ffilmiau Mynydda Llundain?
Pina-coladas i ddathlu. Mi gymrodd hi tua pedair awr i lifio mewn i’r coconuts ond ar ôl hynny roedda ni aaa-wweeee. Ges i’r newyddion dros e-bost cyn gadael tŷ i fynd ar y trip siopa lockdown wythnosol, felly wedi ecseitio’n lân, ffwrdd a fi i wneud trwbl yn Aldi.
Oes ganddo chi fwy o brojectau tebyg ar y gweill?