Pan mae’r crochenydd Kate Russell o Lanfleiddan ger y Bont-faen yn rhoi ei chasgliad diweddaraf ar werth ar ei siop ar-lein, mae’r cyfan wedi ei werthu cyn pen 24 awr.
Yfory (Gwener, Mai 15), bydd hi’n rhoi ei chasgliad newydd ar werth yn ei siop ar lein ‘Skratch Ceramics’ – ond bydd 50% o’r elw ddaw o werthu’r nwyddau yn mynd i elusen Childline. Mae hi wedi amcangyfrif y gallai godi tua £1,500 os yw hi’n gwerthu’r cwbl lot, fel y mae hi’n gwneud fel arfer.