Yn yr hen ddyddiau byddai pobol yn dysgu cerddi ar gof ond mae’n grefft sydd wedi prinhau mewn ysgolion erbyn hyn.
Ond, yn ôl y Prifardd Mererid Hopwood, mae annog plant i ddysgu cerddi ar eu cof yn “sgil lawn mor bwysig” â medru darllen a sgrifennu.
Er mwyn hwyluso hyn, mae’r bardd, sydd hefyd yn athrawes ym maes iaith a llenyddiaeth, wedi cynllunio tair cyfrol arbennig o gerddi gyda gwasg Atebol, i apelio at bob oed, o dan y teitl Ar Gof: Y Lloer a’r Sêr.