Brwydr ddiwylliannol oedd streic fawr y glowyr yn yr 1980au, yn ôl un o’r rhai oedd ynghlwm â hi ac a ddaeth yn Aelod Seneddol dros y blaid Lafur yn Abertawe…

Fe barodd y streic rhwng mis Mawrth 1984 a 1985, wrth i’r Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, fynd benben â’r undebau llafur.

Ymgais oedd y streic i rwystro pyllau glo rhag cael eu cau ledled y Deyrnas Unedig, ond yn y pendraw roedd yn aflwyddiannus wrth i’r diwydiant ddirywio.