Bydd tîm pêl-droed Cymru’n anelu am ddyrchafiad annhebygol yng Nghynghrair y Cenhedloedd heno (nos Fawrth, Tachwedd 19), wrth iddyn nhw groesawu Gwlad yr Iâ i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Hon yw’r gêm olaf yn y grŵp, ac mae’n debygol y bydd yn rhaid i dîm Craig Bellamy ddibynnu ar ganlyniadau eraill er mwyn bod yn sicr o’u lle.
Er bod Craig Bellamy yn mynnu y bydd ei dîm yn canolbwyntio ar y gêm, mae cryn dipyn i’r cefnogwyr gadw golwg arno yn ystod y noson.
Dyma gip ar y dasg sy’n wynebu’r tîm heno…
Beth yw’r sefyllfa bresennol?
Yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn Nhwrci, mae gan dîm Cymru Craig Bellamy siawns o hyd i ennill dyrchafiad i Grŵp A yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ail yng Ngrŵp B4 ar naw pwynt, tu ôl i Dwrci sydd ag 11 pwynt.
Ydy’r sefyllfa yn nwylo Cymru o hyd?
Dyw Cymru ddim wedi colli o dan Craig Bellamy yn ystod gemau’r Gynghrair, ond mae tair gêm gyfartal allan o bump yn golygu ei bod hi’n debygol y bydd yn rhaid i Gymru ddibynnu ar ganlyniad y gêm rhwng Montenegro a Thwrci os ydyn nhw am ennill dyrchafiad.
Pe bai Twrci yn colli ym Montenegro, a Chymru yn ennill yn erbyn Gwlad yr Iâ, yna byddai Cymru yn gorffen ar 12 pwynt, uwchlaw Twrci yn yr ail safle.
Pe bai Twrci yn gorffen yn gyfartal yn erbyn Montenegro, byddai’n rhaid i Gymru ennill, a gwyrdroi gwahaniaeth goliau o dair gôl – hynny yw, ennill o bedair neu fwy yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Ond gallai’r sefyllfa gael ei phenderfynu ar sail disgyblaeth hefyd…?
Gallai.
Mae yna bosibilrwydd bach iawn, pe bai Cymru yn ennill o dair gôl a bod Twrci yn gyfartal yn erbyn Montenegro, y gallai’r grŵp gael ei benderfynu ar sail pwyntiau disgyblu – hynny yw, pwy sydd wedi derbyn y lleiaf o gardiau coch a melyn.
Yn yr ystyr yma, byddai Cymru’n ennill y grŵp oherwydd cerdyn coch Barış Alper Yılmaz yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd ddechrau mis Medi.
Ydy gorfod chwarae gêm ail gyfle’n bosibilrwydd o hyd, felly?
Ydy! Os ydy Twrci yn ennill eu gêm nhw, bydd yna gêm ail gyfle i Gymru er mwyn ennill dyrchafiad.
Bydd yn rhaid iddyn nhw herio un o’r timau wnaeth orffen yn ail yn eu grŵp B nhw, fis Mawrth nesaf.
Pwy yw gwrthwynebwyr posib Cymru pe baen nhw’n mynd i’r gemau ail gyfle?
Ymhlith y timau y gallai Cymru orfod eu hwynebu mae Gwlad Belg, Hwngari, yr Alban a Serbia.
Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud am obeithion Cymru?
Darllenwch sylwadau Dylan Ebenezer…