Cafodd y Senedd ei sefydlu yn 1999.

Hyd at 2020, roedd yn cael ei hadnabod fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth hyn wedi i 50.3% bleidleisio o blaid ei sefydlu adeg y refferendwm datganoli i Gymru yn 1997.

Ond, er i Senedd Cymru fodoli ers dros chwarter canrif bellach, mae sawl un yn parhau i fod yn ansicr o beth yn union yw ei rôl.

Felly, dyma grynodeb golwg360 o beth yn union yw gwaith Senedd Cymru…

Beth yw Senedd Cymru?

Prif rôl y Senedd yw goruchwilio gwaith Llywodraeth Cymru, creu a chraffu ar ddeddfau, a chytuno ar drethi.

Mae hyn yn digwydd trwy gyfrwng Cyfarfodydd Llawn a Pwyllgorau.

Mae’r Senedd wedi ei lleoli ym Mae Caerdydd, ac mae 60 o aelodau i gyd. Ond mae cynlluniau’n cael eu trafod i ddiwygio’r Senedd a chynyddu nifer yr aelodau i 96.

Ar hyn o bryd, mae 30 aelod o’r blaid Lafur, 16 o’r Ceidwadwyr Cymreig, 12 o Blaid Cymru, 1 o’r Democratiaid Rhyddfrydol a 1 annibynnol yn eistedd yn y Senedd.

Caiff faint o bob plaid sy’n cael sedd yn y Senedd ei benderfynu gan etholiadau.

Bydd etholiad nesaf y Senedd ar Fai 7, 2026.

Beth yw’r Cyfarfod Llawn?

Caiff y Cyfarfod Llawn ei gynnal am 13:30 bob prynhawn Mawrth a Mercher yn ystod tymor y Senedd, fel rheol.

Yn y Cyfarfod Llawn, mae holl Aelodau’r Senedd yn ymgynnull mewn ystafell o’r enw y Siambr, er mwyn cyflawni eu cyfrifoldeb i ddal Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yn atebol, deddfu ar gyfer Cymru, a chynrychioli eu hetholwyr.

Caiff Aelodau’r Senedd y cyfle i gwestiynu ei gilydd ac i ddadlau am amryw o bynciau yma.

Mae’r Cyfarfod Llawn yn gyhoeddus, sy’n golygu bod unrhyw un yn gallu ei wylio’n fyw ar y wefan Senedd.tv.

Mae modd dod o hyd i’r agenda sy’n nodi beth fydd yn cael ei drafod yn y Senedd ar eu gwefan ymlaen llaw, ac mae cofnodion gair am air ar gael yn fuan wedi i’r cyfarfod orffen.

Beth yw Pwyllgor?

Mae sawl Pwyllgor yn y Senedd megis y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deisebau.

Maent yn cynnwys aelodau o bleidiau amrywiol sydd wedi eu penodi gan y Senedd, mae’n rhaid bod yn Aelod o’r Senedd er mwyn bod yn rhan o bwyllgor.

Caiff cadeirydd y pwyllgor hefyd ei benodi gan y Senedd.

Mae’r pwyllgorau yn trafod amryw o feysydd sydd yn disgyn o dan gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.

Caiff beth mae pwyllgor yn ei drafod ei benderfynu gan nifer o ffactorau megis beth sydd wedi cael ei drafod yn y siambr yn ddiweddar, awgrymiadau Aelodau o’r Senedd neu pryderon etholwyr a sefydliadau.

Bydd pob pwyllgor yn canolbwyntio ar bynciau sy’n berthnasol iddyn nhw, ond gall rhai pynciau fod yn berthnasol i fwy nag un pwyllgor.

Er enghraifft, gall gofal iechyd plant fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg neu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Pan caiff deddf newydd ei gynnig, y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am benderfynu pa bwyllgor bydd yn gyfrifol o graffu arno.

Mae pwyllgorau yn edrych ar faterion sy’n cael eu codi trwy ffurf ymchwiliad.

Fel rhan o’r ymchwiliad maent yn edrych ar beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn barod yn sgil y pwnc a sut mae modd gwella hynny.

Yna, bydd y pwyllgor yn creu adroddiad o awgrymiadau i’r llywodraeth eu hystyried.

Sut mae etholiadau a phleidleisio’n gweithio?

Mae’r 60 aelod o’r Senedd wedi eu penodi trwy etholiadau.

Mae dwy fath o bleidlais sef pleidlais etholaethol a phleidlais rhanbarthol.

Mae’r bleidlais etholaethol yn gyfrifol am benodi 40 Aelod o’r Senedd tra bod y bleidlais rhanbarthol yn penodi 20.

Ar gyfer y bleidlais etholaethol mae Cymru wedi ei rhannu yn 40 rhan a elwir yn etholaethau.

Caiff Aelodau Etholaethol eu dewis trwy broses cyntaf i’r felin.

Golyga hyn mai’r person sy’n cael mwyafrif y pleidleisiau sy’n cael ei ethol i gynrychioli’r ardal.

Ffocws y bleidlais rhanbarthol yw pleidiau gwleidyddol neu unigolion annibynnol.

Mae Cymru wedi ei rhannu i bump rhanbarth gyda pob un yn gyfrifol am anfon pedwar unigolyn i’r Senedd.

Mae gan bob plaid restr o bobol a fyddai’n barod i gynrychioli pob rhanbarth.

Yna, mae unigolion yn pleidleisio dros y blaid maen nhw eisiau gweld yn cynrychioli’r rhanbarth mewn etholiadau.

Caiff cyfanswm pob plaid ei rannu â 1 + nifer yr Aelodau o’r Senedd sydd wedi ennill seddi etholaethol yn y rhanbarth hwnnw yn barod.

Y blaid gyda’r cyfanswm uchaf sydd yn ennill y sedd gyda’r unigolyn ar frig y rhestr yn cael eu hethol.

Mae’r cam yma’n cael ei ailadrodd nes bod rhywun wedi cael ei benodi ar gyfer y pedair sedd rhanbarthol.