Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r newyddion wedi bod yn frith o straeon am doriadau ariannol Llywodraeth Cymru i gyrff celfyddydol, a goblygiadau hynny iddyn nhw.

Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw am wneud toriadau o 10.5% i gyllid cyrff celfyddydol yng Nghymru, er mwyn blaenoriaethu gwariant ar iechyd.

Roedd y fwyell wedi disgyn ar waith Cyngor y Celfyddydau, y Cyngor Llyfrau, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, a CADW, gyda’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn wynebu toriad o fwy na 22% i’w gwariant.

Mae’r ymateb i’r toriadau wedi bod yn chwyrn, gyda sylwebwyr a gwleidyddion yn mynegi pryderon am effaith y toriadau ar ddyfodol sefydliadau sy’n gofalu am drysorau a threftadaeth Cymru, ynghyd â’i chyhoeddiadau a’i chelfyddyd.

 

Beth yw effaith y toriadau ar Amgueddfa Cymru?

Yn ôl yr Amgueddfa, dyma’r toriad mwyaf i’w chyllideb yn ei hanes. Mae’n golygu gostyngiad o £3m mewn cyllid Cymorth Grant, a’r sefydliad yn parhau i wynebu diffyg o £1.5m o flwyddyn i flwyddyn. Roedd disgwyl i’r Amgueddfa orfod gostwng ei gyllideb refeniw 2024/25 o £4.5m erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am Amgueddfa Cymru Caerdydd, Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa’r Glannau Abertawe, Amgueddfa Lechi Llanberis, Amgueddfa Lofaol Big Pit, a’r Amgueddfa Wlân yn Nhrefach Felindre.

Yr wythnos hon, fe rybuddiodd yr amgueddfa y gallai eu prif safle yng Nghaerdydd gau ac y bydd o leiaf 90 o aelodau o staff yn colli eu gwaith yn dilyn toriad i’w cyllid.

Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru ydy Jane Richardson, oedd wedi dechrau yn ei swydd ym mis Tachwedd. Wrth roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Diwylliant y Senedd ym mis Rhagfyr, dywedodd hi fod angen gwario difrifol – tua £90m – ar y saith safle, gan gynnwys £25m ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae 90% o’r incwm ddaw i Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru yn mynd ar gostau staff. Er bod y sefydliad yn dweud ei fod yn trafod ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm, yn ogystal â ffyrdd eraill o leihau costau gweithredol, bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf o’r gostyngiad ddod drwy gael gwared ar swyddi.

Yn ôl Jane Richardson, mae “llawer o swyddi” wedi cael eu colli ac maen nhw wedi gorfod “ailstrwythuro’r sefydliad cyfan, mae pob tîm unigol wedi’i effeithio”.

Y pryder, meddai, yw eu bod yn colli “pobol ag arbenigedd dwfn.”

Pa gyrff eraill sy’n teimlo effeithiau’r toriadau?

Mae’r Cyngor Llyfrau yn wynebu toriad o 10.5% i’w gyllideb yn dilyn cadarnhad y Llywodraeth o’u cyllideb ddrafft 2024/25.

Bydd y torri nôl yma yn golygu bod £450,000 yn llai o gyllid ar gyfer y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Yn ôl Helgard Krause, Prif Weithredwr y sefydliad, mae’r Cyngor Llyfrau wedi colli traean o’r staff ers mis Ebrill 2017.

Mae hi hefyd yn siomedig fod y Llywodraeth wedi gwneud yr un toriadau i’r cyrff yn gyfartal, gan ddadlau bod y Cyngor Llyfrau yn cefnogi diwylliant pwysig y siopau a’r gweisg annibynnol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu… fod pawb yn cael yr un toriad, beth bynnag yw’r cyllid i ddechre… Dw i’n derbyn bod yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol yn colli lot mwy o swyddi, ond ry’n ni hefyd yn colli llyfrau a grantiau. D’yn ni ddim, fel y nhw, yn gwario ein harian ar ein swyddi. Lleiafrif yr arian sydd yn mynd ar swyddi – mae’r mwyafrif yn mynd ar gwmnïau bach annibynnol sydd yn cyhoeddi llyfr yn y ddwy iaith. Dyna pam bod yr effaith niweidiol yn lot, lot mwy na’r sector cyhoeddus.”

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi cyhoeddi’r wythnos hon y bydd yn cwtogi Tymor 2024/25 oherwydd toriad i’w cyllid.

O ganlyniad i heriau ariannol cynyddol, mae’r cwmni wedi gorfod gwneud y penderfyniad i beidio teithio i’r Hippodrome ym Mryste ym mis Chwefror 2025, na Venue Cymru, Llandudno ym mis Mai 2025.

Mae WNO yn derbyn cyllid Sefydliad Portffolio Cenedlaethol (NPO) gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England (ACE).

Fel rhan o’u cyhoeddiadau diweddar ynghylch cyllido, mae WNO wedi derbyn toriad o 35% (£2.2m) yn y cyllid gan ACE, a thoriad o 11.8% yn y cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2024/2025.

“Mae ein sefyllfa ariannol newydd yn golygu ein bod yn wynebu’r her o gydbwyso cyllideb lai gan hefyd gynnal safonau artistig er mwyn darparu rhaglen gyffrous o berfformiadau a gweithgareddau ymgysylltu,” meddai Christopher Barron, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro WNO.

“Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, ond nid oes modd osgoi hynny dan yr amgylchiadau.”

Beth yw ymateb y pleidiau gwleidyddol?

Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru wedi codi pryderon dros ddyfodol yr Amgueddfa yn y Senedd ers tro, meddai.

“Dw i’n bryderus dros ben,” meddai. “Dw i wedi bod yn codi’r pryderon hyn yn y Senedd ers 2021, a dydy’r problemau yma heb ddigwydd dros nos.

“Mae o’n fy nhristau i yn fawr nad ydy Llywodraeth Cymru i’w weld yn deall diwylliant, na chwaith yn malio am ddiwylliant na chof ein cenedl.”

Mae Heledd Fychan nawr yn galw am strategaeth er mwyn diogelu sefydliadau o’r fath ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cyhuddo Vaughan Gething o wario £120m ar 36 o Aelodau Senedd ychwanegol, yn lle rhoi arian i geisio achub yr Amgueddfa Genedlaethol.

Ac yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, byddai’n “warth cenedlaethol” petai’r Amgueddfa Genedlaethol yn cael ei gorfodi i gau.

Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei ddweud?

Ar ddechrau’r wythnos, roedd y Prif Weinidog Vaughan Gething wedi amddiffyn y toriadau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Ebrill 15), roedd wedi gwrthod cynnig unrhyw gymorth brys i Amgueddfa Cymru, gan ddweud bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn flaenoriaeth wedi degawd o lymder.

“Rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben.”

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru, yn dweud ei bod wedi cael sicrwydd gan Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, nad oes unrhyw gynlluniau i gau’r Amgueddfa yng Nghaerdydd. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru’n “ymroddedig” i beidio â chodi ffi mynediad i’r amgueddfeydd.