Wedi colli eu gemau yn y penwythnosau diwethaf yng nghwpan yr Heineken, fe fydd y Scarlets yn awyddus i roi’r siom nail ochr wrth iddynt deithio i Gaeredin.
Bydd ychydig o newidiadau i’r rhanbarth o’r Gorllewin heno, lle mai rhestr hir o anafiadau. Mae cyfanswm o 14 chwaraewr o’r garfan ddim ar gael ar gyfer y gêm.
Ni fydd y ddau ganolwr Jonathan Davies a Gareth Maule ar gael, felly Nick Reynolds a Scott Williams fydd yn rheoli’r canol. Bydd y chwaraewr rhyngwladol o’r Ariannin Tomás Vallejos yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i dre’r Sosban, ac Aled Thomas fydd wrth y llyw yn safle’r maswr, gyda Rhys Priestland ar y fainc.
‘‘Mae hon yn gêm bwysig i ni. Ni allwn adael i’r ddau ganlyniad diwethaf effeithio ar ein chwarae mewn unrhyw fodd,’’ meddai Simon Easterby, rheolwr y Sgarlets.
Mi fydd y gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Alba.
Tîm y Sgarlets –
Olwyr – Liam Williams, George North, Nick Reynolds, Scott Williams, Morgan Stoddart, Aled Thomas a Gareth Davies.
Blaenwyr – Phil John, Matthew Rees, Samson Lee, Sione Timani, Tomas Vallejos, Aaron Shingler, Johnathan Edwards a Rob McCusker (Capten)
Eilyddion – Ken Owens, Shaun Hopkins, Deacon Manu, Richard Kelly, Kieran Murphy, Aled Davies, Rhys Priestland a Gareth Owen.