Gweilch 10–28 Glasgow


Mae dechrau gwael y Gweilch i’r tymor yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Glasgow yn Stadiwm Liberty nos Wener. Mae’r Cymry bellach wedi colli eu tair gêm agoriadol yn y RaboDirect Pro12 y tymor hwn.

Sefydlodd yr Albanwyr fantais iach erbyn yr egwyl ac er i’r tîm cartref wella yn yr ail hanner, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Dechrau Gwael

Cafodd y Gweilch y dechrau gwaethaf posib wrth i asgellwr Glasgow, D. T. H. Van der Merwe, ddal cic uchel Dan Biggar yn ei ardal 22 medr ei hun cyn rhedeg hyd y cae i sgorio’r cais agoriadol wedi dim ond tri munud.

Ychwanegodd Duncan Weir dri phwynt arall gyda chic gosb cyn i’r blaenasgellwr, Chris Fusaro, sgorio ail gais yr Albanwyr.

Camgymeriad gwael gan Rhys Webb oedd yn gyfrifol am y cais hwn. Collodd y mewnwr y bêl mewn safle peryglus a stopio chwarae gan roi rhwydd hynt i Fusaro fanteisio. Ychwanegodd Weir y trosiad i roi Glasgow ar y blaen o 15-0.

Ail Hanner

Roedd Webb yn ei chanol hi eto yn fuan yn yr ail hanner, yn derbyn cerdyn melyn y tro hwn am drosedd broffesiynol wyrion. Llwyddodd Weir gyda’r gic gosb ganlynol i ymestyn mantais Glasgow i 18 pwynt.

Ymunodd blaenasgellwr Glasgow, James Eddie, Webb  yn y gell gosb yn fuan wedyn a manteisiodd y Gweilch yn syth gyda chais i Ian Evans yn dilyn cyfnod hir o bwyso yng nghysgod pyst yr Albanwyr. Ychwanegodd Biggar y trosiad i roi llygedyn o obaith i’r tîm cartref.

Ond sicrhaodd Glasgow’r fuddugoliaeth funudau’n ddiweddarach diolch i ail gais van der Merwe. Er i Richard Hibbard daclo’r asgellwr o Ganada, llwyddodd i godi ar ei draed a hyrddio’i hun dros y gwyngalch. Llwyddodd Weir gyda’r trosiad i adfer y 18 pwynt o fantais.

Cyfnewidiodd Biggar ac eilydd faswr Glasgow, Ruaridh Jackson, dri phwynt yr un yn y chwarter olaf wrth i’r ymwelwyr ennill yn gyfforddus yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch un safle o waelod tabl y Pro12 tra mae Glasgow yn codi drostynt i’r seithfed safle.

Barn y Capten

Afraid dweud fod capten y Gweilch, Alun Wyn Jones, yn siomedig iawn ar ddiwedd y gêm:

“Fe wnaethon ni ei gadael hi rhy hwyr eto. Doedden ni ddim yno yn yr hanner cyntaf… Roedd yr ail hanner yn well ond roedd gormod o gamgymeriadau yn ardal y dacl ac roedd y dyfarnwr yn un diddorol hefyd. Ar y cyfan, noson wael iawn.”

Gweilch

Cais: Ian Evans 51’

Trosiad: Dan Biggar 52’

Cic Gosb: Dan Biggar 61’

Cerdyn Melyn: Rhys Webb 45’

Glasgow

Ceisiau: D. T. H. Van der Merwe 3’, 54’, Chris Fusaro 28’

Trosiadau: Duncan Weir 29’, 55’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 13’, 46’, Ruaridh Jackson 75’

Cerdyn Melyn: James Eddie 50’

Torf – 7,129