Johan Snyman
Mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo Johan Snyman o’r Eastern Province Kings.

Mae Snyman yn 26 oed ac wedi chwarae dros y Natal Sharks a’r Golden Lions, ac wedi cynrychioli De Affrica dan 20.

Dyma’r ail ail-reng o Dde Affrica i ymuno â’r rhanbarth y tymor yma, yn dilyn George Earls, a’r pedwerydd ail reng o dramor – mae Tomas Vallejos o’r Ariannin a’r Awstraliad o dras Cymreig, Jake Ball, eisoes wedi ymuno.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y Sgarlets eu bod nhw wedi arwyddo chwaraewr arall o Dde Affrica – y prop pen-tynn Jacobie Adriaanse o dîm y Lions.

Dywedodd prif hyfforddwr y Sgarlets, Simon Easterby, ei fod wrth ei fodd fod Joe Snyman – sy’n 6 troedfedd 7 modfedd o daldra ac yn pwyso bron i 19 stôn – yn dod i Barc y Sgarlets.

“Mae gan chwaraewyr hemisffer y de brofiadau gwahanol, a bydd eu dylanwad  nhw o fewn y garfan yn sicr o gael effaith bositif ac o roi hwb i’r bechgyn yma,” meddai Simon Easterby.