Gavin Henson
Mae Lyn Jones, rheolwr clwb rygbi Cymry Llundain wedi dweud y bydd Gavin Henson yn dychwelyd i’r cae mewn pedair wythnos.

Fe dorrodd y chwaraewr 30 oed asgwrn yn ei foch mewn gem gyfeillgar yn erbyn y Scarlets.

Ar ôl 30 munud, cafodd ei eilyddio a’i gludo i Ysbyty Treforys lle cafodd lawdriniaeth.

‘‘Mae anafiadau yn digwydd o hyd mewn rygbi, nid yw’r anaf yma’n wahanol i unrhyw anaf arall sydd wedi digwydd i nifer o chwaraewyr eraill ar y cae yn yr wythnosau diwethaf,” meddai Lyn Jones.

Ddoe, fe gyhoeddodd y clwb na fyddan nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach dros yr anaf a gafodd Henson.

Dywedodd y clwb eu bod wedi edrych droeon ar y digwyddiad ar DVD, ond eu bod yn fodlon bod yr anaf a gafodd Henson wedi’i achosi gan wrthdaro damweiniol i’r pen.  Nid yw’r clwb yn beio unrhyw un o chwaraewyr y  Scarlets am y digwyddiad.