JT
Mae Jason Tovey yn dweud iddo symud i Gaerdydd er mwyn gwella ei gyfle o gael chwarae i Gymru.

Roedd y maswr 23 oed wedi cael ei fathu’n un ar gyfer y tîm cenedlaethol pan ymunodd gyda’r Dreigiau bum mlynedd yn ôl.

Ond roedd cyn-seren dan 20 oed Cymru wedi ei chael hi’n anodd i gyflawni ei botensial yn Rodney Parade, a’r haf hwn mae’n troi am Gaerdydd.

‘‘Roeddwn eisiau cychwyn newydd, doeddwn i ddim yn chwarae yn y modd yr hoffem i ei wneud yn y Dreigiau, ond mae hyn yn gyfnod newydd i mi,” meddai Tovey.  “Gobeithio y gallaf ennill llawer o gemau yma, mewn gobaith y bydd hynny’n rhoi cyfle i mi chwarae i’r tîm rhyngwladol.”

Bydd Tovey yn teithio gyda’r Gleision i Gasneywdd ar gyfer drydedd rownd Cynghrair RaboDirect PRO 12 i herio’i hen glwb.

‘‘Yn bersonol, mae’n gêm enfawr i mi, ac rwy’n edrych ymlaen i weld fy ffrindiau eto,’’ ychwanegodd Tovey.