Mae Dreigiau Casnewydd wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo’r blaen asgellwr Hywel Stoddart ar gytundeb o flwyddyn ar gyfer y tymor nesaf.
Fe chwaraeodd y blaenwr 26 oed i Gasnewydd y tymor diwethaf, ond bellach mae’n ymuno gyda’r Dreigiau.
Mae Hywel Stoddart, sy’n frawd i Morgan Stoddart o’r Scarlets, wedi bod yn rhan o dîm y Dreigiau o’r blaen. Yn ystod y tymor 2011/2012, yng nghanol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, fe chwaraeodd rheng-ôl i’r Dreigiau mewn sawl gêm.
‘‘Roeddwn yn eilydd yn ystod y gêm yn erbyn y Gleision, ond ges i gyfle i ddod oddi ar y fainc i chwarae i’r Dreigiau yn erbyn Caeredin. Roedd yn brofiad gwych i mi. Rwy’n hynod o falch o dderbyn y cyfle sydd yn galluogi i mi i fod yn chwaraewr llawn amser nawr,’’ meddai Hywel Stoddart.
‘‘Yn amlwg mae’n gystadleuol iawn yma am le yn y tîm, ond rwy’n gobeithio y gallaf herio am le, cael rhywfaint o amser chwarae ar y cae a chreu argraff pan ddaw’r cyfle,’’ ychwanegodd.