Craig Mitchell
Mae peryg fod polisi Warren Gatland o ‘chwarae yng Nghymru i chwarae i Gymru’ am gael ei herio ymhellach.

Yn ôl y BBC, mae prop Cymru, Craig Mitchell, yn debyg o adael y Gweilch ac ymuno â chlwb yn Lloegr – Exeter fwy na thebyg.

Fe fyddai’n dilyn rhes o chwaraewyr sydd ar fin gadael Cymru i ennill cyflogau mawr yn chwarae i glybiau yn Ffrainc.

Mae’r rheiny’n cynnwys y maswr James Hook, sy’n mynd i Perpignan a’r cefnwr Lee Byrne, sy’n mynd i Clermont Auvergne.

Yn y gorffennol, mae hyfforddwr Cymru wedi awgrymu y bydd hi’n llawer mwy anodd i chwaraewyr gael eu dewis i Gymru os ydyn nhw’n chwarae y tu allan i’r wlad.

Mae Mitchell, sy’n 24, wedi bod yng nghysgod y chwaraewr profiadol, Adam Jones, gyda’r Gweilch a Chymru ond mae wedi cael ei gyfle rhyngwladol eleni ar ôl anaf i’w gyd-brop.