Nigel Davies
Tra bod Lerpwl wedi penodi rheolwr newydd a chytuno ar iawndal gydag Abertawe o fewn 24 awr, mae anniddigrwydd ymhlith cefnogwyr rhanbarth y Sgarlets nad oes sicrwydd a yw Nigel Davies yn mynd neu’n aros.
Mae Nigel Davies wedi cael ei gysylltu gyda swydd hyfforddwr Caerloyw ond nid yw’r clwb Ceirios a Gwyn na’r Sgarlets wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth bellach.
Mae gan Nigel Davies flwyddyn arall ar ei gytundeb ac mae sôn fod y ddau glwb yn trafod faint o iawndal sy’n ddyledus i’r Sgarlets pe bai Nigel Davies yn symud dros y ffin.
Dywedodd y Sgarlets wrth Golwg360 nad oes newydd gyda nhw ac y byddan nhw’n rhyddhau gwybodaeth “siwrne fyddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny.”
Ar fforwm drafod y cefnogwyr Scarlet Fever, gofynnodd ‘Cymru2006’
“Pam does dim newyddion gan y clwb? Ni jyst isie gwybod un ffordd neu’r llall!
“Rhaid fod hyn yn cael effaith ar docynnau tymor. Dyma’r adeg pan mae’r clwb am ddenu pobol i brynu tocynnau felly dewch a newyddion i ni fel bod pawb yn gwybod ble ni’n sefyll!!.”
Dywedodd cyfrannwr ‘No.6’
“Dwi’n gobeithio bydd y clwb yn gwneud penderfyniad ac yn cau pen y mwdwl ar yr wythnosau ffarsaidd diwethaf.”