Mae hyfforddwr merched Cymru wedi gwneud un newid i’r tîm i wynebu’r Alban yn Burnbae dydd Sul. 

Mae Kris de Scossa wedi cynnwys y prop profiadol Jenny Davies yn y pymtheg cyntaf yn lle Caryl Thomas o Gaerfaddon, sy’n disgyn i’r fainc. 

Mae’r ddau dîm yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o’r gystadleuaeth ar ôl i Gymru golli i Loegr a’r Alban yn colli yn erbyn Ffrainc. 

Tra bod yr Albanwyr wedi gwneud saith newid i’r tîm, mae hyfforddwr Cymru wedi dangos ei ffydd yn ei dîm trwy  gyfyngu ar y newidiadau. 

“R’y ni’n edrych ar y Chwe Gwlad yn sail i symud ‘mlaen a datblygu a dyma’r cam cyntaf i osod pethau yn eu lle,” meddai Kris de Scossa. 

“R’y ni’n cadw at yr un garfan a oedd wedi rhoi perfformiad cadarn yn erbyn Lloegr ac fe fyddwn ni’n ail edrych ar bethau yn dilyn y gêm yn erbyn yr Alban.”

Carfan merched Cymru 

Aimee Young (Caerfaddon), Caryl James (Quins Caerdydd), Adi Taviner, (Castell-nedd Athletig), Elen Evans (Dolgellau), Charlie Murray (Castell-nedd Athletig); Elinor Snowsill (Quins Caerdydd), Amy Day (Cross Keys).

Jenny Davies (Waterloo), Rhian Bowden (Cross Keys), Catrin Edwards (Quins Caerdydd), Ashley Rowlands (Wasps), Shona Powell Hughes (Castell-nedd Athletig), Lisa Newton (UWIC), Sioned Harries (UWIC), Jamie Kift (Cross Keys).

Eilyddion- Lowri Harries (Castell-nedd Athletig), Caryl Thomas (Caerfaddon), Vicky Owens (UWIC), Sian Williams (Caerfaddon), Laura Prosser (Quins Caerdydd), Awen Thomas (Cross Keys), Kerin Lake (Neath Athletic).