Rhys Priestland - o fewn y dim i gael ei ddewis fel maswr dros Gymru ddydd Sadwrn
Mae Warren Gatland wedi datgelu iddo ystyried dewis chwaraewr ifanc y Scarlets, Rhys Priestland i ddechrau yn safle’r maswr yn erbyn yr Alban. 

Fe ddewisodd hyfforddwr Cymru James Hook yn y pen draw er mwyn osgoi rhoi Priestland, sydd heb ennill cap hyd yn hyn, dan bwysau. 

“Roedd ’na drafodaeth hir dros ddechrau gyda Rhys neu beidio,” meddai Gatland. 

“Rhys yw’r maswr ymosodol gorau yng Nghymru’r tymor hwn.  Ond fe gafodd ei benderfynu y byddai’n anheg ei roi dan gymaint o bwysau yn ei gêm gyntaf.

“Mae’n benderfyniad dewr i ddewis James yn safle’r maswr wrth ystyried nad yw wedi dechrau gêm yn rhif deg trwy’r tymor.

“Ond mae wedi bod yn awyddus i chwarae yno ers tro.  Mae’n chwaraewr o safon.” 

Ond mae Gatland wedi dweud bod gan Hook bethau i ddysgu ynglŷn â chwarae yn safle’r maswr. 

“Y peth pwysig sydd angen cofio mae ei rôl yw creu cyfleoedd i bobl arall.  Mae ’na duedd iddo gymryd gormod ymlaen ei hunan.

“Ar adegau, mae’n rhedeg pan roedd pasio’n opsiwn, a chicio pan allai fod wedi rhedeg.  Efallai bod angen bod ychydig yn fwy ceidwadol a chymryd llai o risg.

“Ry’n ni am i James fynd allan a bod yn naturiol, ond hefyd yn reddfol ac edrych i wneud y penderfyniadau cywir.  Mae’n gyfle da iddo ddangos pa mor dda mae’n gallu bod.”

Hook yn hyderus

Mae James Hook wedi dweud bod ganddo ffydd yn ei allu i chwarae fel maswr i Gymru yn erbyn yr Alban dydd Sadwrn. 

Fe gafodd chwaraewr amryddawn y Gweilch ei ddewis o flaen Stephen Jones ar gyfer ail gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Murrayfield. 

Mae Hook heb chwarae yn safle’r maswr i Gymru ers Chwe Gwlad 2009. 

“Mae ’na bwysau’n mynd i fod i chwarae’n safle’r maswr. Fe fydd yn wahanol dechrau yn safle’r maswr yn hytrach na symud yno gyda 10 neu 20 munud o’r gêm yn weddill,” meddai James Hook. 
 
“Ond mae gennyf yr hyder i fynd allan ar y cae a gwneud fy ngorau.

“Rwy’n mynd i ymdrechu i hawlio’r crys rhif deg ac mae’r cyfan yn dechrau dydd Sadwrn.

“Rwy’ heb ddechrau’n safle’r maswr ers tro, ond rwy’n hyderus iawn i chwarae yno.  Rwy’ wedi cael fy newis ac mae i fyny i mi berfformio.

“Mae angen i ni gredu yn ein hunain a pheidio gadael i ddylanwadau allanol effeithio arnom.  Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hunain i geisio sicrhau’r fuddugoliaeth.”