Fe fydd Gleision Caerdydd yn  chwarae eu holl gemau yn ystod y tymor nesaf  ym Mharc yr Arfau.

Fe gyhoeddwyd bod y Gleision wedi cael eu rhyddhau o les Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae’n debyg bod y clwb wedi gwrando ar eu cefnogwyr oedd yn anhapus gyda’r stadiwm.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau heddiw y gall yr Adar Gleision gael eu hail-frandio y tymor nesaf. Yn ôl adroddiadau yn y Western Mail fe all y clwb fod yn gwisgo coch y tymor nesaf.

Mae perchnogion y clwb, sy’n dod o Malaysia yn credu bod coch liw gwell i farchnata’r clwb yn Asia ac yn fwy perthnasol i Gymru.

Mae chwaraewyr y clwb wedi bod yn gwisgo glas ers 1908.