Wrecsam 2–1 Luton

Er i Wrecsam frwydro’n ôl i guro Luton ar y Cae Ras brynhawn Llun, nid oedd hynny’n ddigon iddynt ennill rownd gynderfynol gemau ail gyfle’r Gyngres dros ddau gymal.

Roedd Luton ar y blaen o 2-0 ers y cymal cyntaf nos Iau ac roedd hi’n dair hanner ffordd trwy hanner cyntaf y gêm hon yn y Cae Ras. Ac er i Cieslewicz a Morrell sgorio i’r Dreigiau yn y rail hanner daliodd Luton eu gafael i ennill o 3-2 dros y ddwy gêm.

Roedd tasg Wrecsam yn un anodd ar y dechrau ond roedd ganddynt fynydd i’w ddringo wedi 25 munud ar ôl i George Pilkington roi’r ymwelwyr ar y blaen o’r smotyn. Cafodd Alex Lawless ei lorio yn y cwrt gan Mark Creighton a gwnaeth Pilkington y gweddill o ddeuddeg llath.

Ond rhoddodd Adrian Cieslewicz lygedyn o obaith i’r tîm cartref toc wedi’r awr pan beniodd gic gornel gywir Dean Keates heibio i Mark Tyler yn y gôl i Luton.

Roedd y llygedyn hwnnw yn fwy wedi 77 munud pan sgoriodd y chwaraewr reolwr, Andy Morrell, ail y Dreigiau.

Rhoddodd gôl Morrell chwarter awr i’w dîm chwilio am drydedd ond er brwydro’n ddewr wnaethon nhw ddim dod yn agos at sgorio mewn gwirionedd.

Roedd golygfeydd braidd yn siomedig ar ddiwedd y gêm wrth i rai o’r cefnogwyr cartref geisio tarfu ar ddathliadau’r ymwelwyr.

Dyma’r ail dymor yn olynol i obeithion y Dreigiau o ddyrchafiad gael eu dinistrio gan y tîm o dde Lloegr yn y gemau ail gyfle. Ac wrth ystyried i’r Cymry orffen y tymor 18 pwynt yn glir o Luton mae’n rhaid dweud eu bod yn hynod anlwcus mai’r system gemau ail gyfle sydd yn cael ei defnyddio yn Uwch Gynghrair y Blue Square.

Ond os all Wrecsam gadw’r un garfan y tymor nesaf mae’n rhaid mai hwy, ynghyd â’r ddau dîm sy’n disgyn i’r Gyngres, Henffordd a Macclesfield, fydd y ffefrynnau i esgyn.