West Ham 3–0 Caerdydd
Colli fu hanes Caerdydd yn erbyn West Ham ar Barc Upton yn ail gymal rownd gynderfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth brynhawn Llun.
Roedd yr Adar Gleision eisoes ar ei hôl hi o 2-0 ers y cymal cyntaf ac roedd eu gobeithion ar ben wedi chwarter awr o’r gêm hon ar ôl i Kevin Nolan sgorio gôl arall i’r tîm o Lundain. Ychwanegodd Ricardo Vaz Te a Nicky Maynard ddwy arall wrth i West Ham ennill yn gyfforddus yn y diwedd.
Hwn oedd y trydydd tro mewn tri thymor i Gaerdydd faglu yn y gemau ail gyfle a bydd rhaid iddynt gryfhau yn yr haf os am gyfle arall y tymor nesaf.
Croesiad cywir Matt Taylor o gic gornel oedd yn gyfrifol am y gôl gyntaf a pheniodd Nolan yn gywir heibio David Marshall yn y gôl i Gaerdydd.
Bu bron i Gary O’Neil ddyblu mantais yr Hammers yn fuan wedyn ond tarodd ei foli dros y trawst.
Ond roedd hi’n ddwy cyn yr egwyl diolch i gôl safonol Vaz Te. Derbyniodd y gŵr o Bortiwgal y bêl gan Guy Demel ar ochr y cwrt cosbi cyn ergydio i gornel uchaf y rhwyd. Dim gobaith i Marshall a gobeithion yr Adar Gleision yn diflannu hefyd.
Chwaraewr Cymru, Jack Collison, oedd arwr West Ham yn y cymal cyntaf ond bu rhaid iddynt chwarae’r ail hanner hebddo heddiw wedi iddo dderbyn anaf cas i’w ysgwydd.
Ond roedd y tîm cartref yn hen ddigon da i ddal eu gafael heb y chwaraewr canol cae a hwy a orffennodd y gêm orau. Bu bron i Taylor sgorio yn dilyn sodliad slic Carlton Cole ond gwnaeth Marshall arbediad gwych.
Yna, ym munud olaf y naw deg fe ddaeth y drydedd gôl i’r eilydd Nicky Maynard. Daeth Henri Lansbury o hyd iddo yn gwbl rydd ar ochr y cwrt cosbi ac ergydiodd yn galed ac yn gywir i’r gornel uchaf.
Mae’r ffaith fod West Ham yn gallu galw ar chwaraewr fel Maynard oddi ar y fainc yn pwysleisio’r gagendor rhwng y ddau dîm a’r ddwy garfan, a does dim dwywaith fod West Ham yn enillwyr haeddianol.