Airbus 0-1 Aberystwyth

Mae gobeithion Aberystwyth o chwarae pêl droed Ewropeaidd y tymor nesaf yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Airbus ar y Maes Awyr brynhawn Llun.

Er i Aber orffen y tymor arferol yn yr wythfed safle yn Uwch Gynghrair Cymru cawsant eu dyrchafu i’r gemau ail gyfle Ewropeaidd wedi i Gastell Nedd fethu â chael trwydded.

Ond er gwaethaf eu safle isel yn y tabl maent bellach ddwy gêm i ffwrdd o chwarae yng Nghynghrair Europa’r tymor nesaf wedi iddynt guro Airbus o gôl i ddim yn y gêm ail gyfle gyntaf.

Y tîm cartref a gafodd gyfleoedd gorau’r hanner cyntaf ond di sgôr oedd hi ar yr egwyl er i Mark Danks, Adam Worton a Glen Rule i gyd ddod yn agos.

Yn y pen arall cafodd Geoff Kellaway a Sean Thornton gyfleoedd ond roedd Aber ar y blaen wedi deg munud o’r ail hanner.

Cafwyd cic gornel gywir gan Andy Parkinson ac roedd yr amddiffynnwr profiadol, Wyn Thomas, yn y lle iawn ar yr amser iawn i rwydo unig gôl y gêm.

Ychydig o gyfleoedd a gafyd wedi hynny ond gwnaeth Aberystwyth ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Llanelli fydd y gwrthwynebwyr yn y rownd gynderfynol gyda’r Bala a Phrestatyn yn herio’i gilydd yn y gêm arall.