Andy Powell
Ni fydd Andy Powell ar gael i herio’r Alban yn Murrayfield ddydd Sadwrn.

Anafodd yr wythwr ei ysgwydd wrth i Gymru chwarae Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.

Mae disgwyl i gyn-gapten Cymru Ryan Jones ddod i mewn yn ei le.

Bydd Andy Powell yn ymuno gydag Adam Jones, Gethin Jenkins, Leigh Halfpenny, George North a Tom Shanklin, sydd eisoes yn gwylio o’r ystlys ar ôl cael eu hanafu.

Mae yna newyddion gwell i’r asgellwr Morgan Stoddart, sydd wedi cael rhagor o amser i brofi ei ffitrwydd ar ôl tor ei law wrth chwarae yn erbyn Lloegr.

Mae asgellwr y Gleision, Chris Czekaj, wedi ei alw i mewn i’r sgwad yn ei le.

“Os ydi anaf Morgan yn gwella, fe fydd yn cael chwarae ar yr amod ei fod yn pasio prawf ffitrwydd ddiwedd yr wythnos,” meddai ffisiotherapydd Cymru, Mark Davies.

Ychwanegodd fod angen “cyfnod o orffwys” ar Powell ar ôl iddo anafu ei ysgwydd.

“Os ydi popeth yn mynd yn iawn fe fydd yn cael chwarae eto yn gêm yr Eidal ddiwedd y mis,” meddai.

Blaenwyr Cymru

Alun Wyn Jones (Gweilch), Andy Powell (Wasps), Bradley Davies (Gleision), Craig Mitchell (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Matthew Rees (Scarlets, capten), Paul James (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), Rob McCusker (Scarlets), Ryan Bevington (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Sam Warburton (Gleision), Scott Andrews (Gleision).

Cefnwyr Cymru

Chris Czekaj (Gleision), Dwayne Peel (Sale), James Hook (Gweilch), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Lee Byrne (Gweilch), Mike Phillips (Gweilch), Morgan Stoddart (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Shane Williams (Gweilch), Stephen Jones (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets).