Aaron Ramsey
Aaron Ramsey yw’r chwaraewr diweddaraf i dynnu ‘nôl o garfan Cymru cyn gêm agoriadol Cwpan y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos yfory.
Fe gafodd y chwaraewr canol cae anaf wrth chwarae i Gaerdydd yn y gêm ddarbi yn erbyn Abertawe ddoe.
Roedd chwaraewr canol cae Abertawe, Joe Allen, wedi ei ychwanegu at y garfan ond bu’n rhaid iddo ef hefyd dynnu ‘nôl hefyd oherwydd anaf i’w goes.
Mae Dave Edwards o Wolves hefyd yn absennol oherwydd anaf i’w bigwrn, ond mae Andy Dorman o Crystal Palace yn cymryd ei le yn y garfan ar gyfer gêm gyntaf Gary Speed wrth y llyw.
Mae cyd-chwaraewyr Dorman yn Crystal Palace, Jermaine Easter a Lewis Price, wedi cael eu hychwanegu i’r garfan ar ôl i Ched Evans a Boaz Myhill dynnu ‘nôl.
Mae Darcy Blake, Lewin Nyatanga a Sam Vokes wedi derbyn galwadau hwyr i ymuno gyda’r garfan hefyd.
Carfan Cymru
Golwyr- Jason Brown (Blackburn), Wayne Hennessey (Wolves), Lewis Price (Crystal Palace).
Amddiffynwyr- Danny Collins (Stoke), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Darcy Blake (Caerdydd), Chris Gunter (Nottingham Forest), Sam Ricketts (Bolton), Ashley Williams (Abertawe), Lewin Nyatanga (Dinas Bryste).
Canol cae- Andrew Crofts (Norwich), Andy King ( Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic),David Vaughan (Blackpool), Andy Dorman (Crystal Palace).
Ymosodwyr- Simon Church (Reading), Rob Earnshaw (Nottingham Forest), Freddie Eastwood (Coventry), Sam Vokes (Wolves), Hal Robson-Kanu (Reading), Jermaine Easter (Crystal Palace).
Anafiadau Iwerddon
Mae hyfforddwr Gweriniaeth Iwerddon, Giovanni Trapattoni, wedi gorfod gwneud newidiadau i’w garfan ef hefyd oherwydd anafiadau.
Ymosodwr West Ham, Robbie Keane, a James McCarthy, o Wigan, yw’r diweddaraf i adael y garfan, ac mae Liam Lawrence a Leon Best hefyd yn absennol.
Mae cyn-ymosodwr Caerdydd, Andy Keogh, a’r chwaraewr canol cae, Keith Fahey, wedi eu galw i mewn i’r garfan.
Mae disgwyl i amddiffynwr Aston Villa, Ciaran Clark, a Seamus Coleman, o Everton, ennill eu capiau cyntaf yn erbyn y Cymry nos yfory.