James Hook
Mae James Hook wedi rhybuddio Cymru eu bod nhw ar fin wynebu tîm o’r Alban sydd “wedi gwella’n sylweddol”.

Fel Cymru collodd yr Alban eu gêm gyntaf nhw ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond roedd y perfformiad yn erbyn Ffrainc yn y Stade de France yn un llawer gwell na’r Cymry.

Sgoriodd yr Alban tri chais i bedwar yn erbyn Ffrainc, gan golli o 34 pwynt i 21. Fe fydd Cymru yn teithio i Murrayfield i’w herio nhw ddydd Sadwrn.

“Fe fydd hi’n gêm anodd iawn yn yr Alban. Mae eu tîm nhw wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai James Hook.

“Mae angen i ni ddechrau ennill gemau ac rydw i’n credu mai Murrayfield yw’r lle gorau i ni wneud hynny’r penwythnos nesaf.

“Mae angen buddugoliaeth arnom ni. Mae’n rhaid i ni frwydro ymlaen ac ennill gêm yn rhywle.  R’yn ni’n dîm da gyda chwaraewyr da. Yr oll sydd ei angen yw buddugoliaeth.”

Dywedodd nad oedd Cymru wedi llwyddo i sgorio pwyntiau ar ôl rhoi pwysau ar Loegr a dyna oedd yn bennaf gyfrifol am ganlyniad y gêm ddydd Gwener.

“Roedd llygedyn o obaith ar ôl cais Morgan Stoddart ond chwaraeodd Lloegr yn glyfar a chadw pethau’n ddyn,” meddai.

“Cymryd bob cyfle yw’r unig ffordd o ennill gemau rhyngwladol. Wnaethon ni ddim cymryd ein cyfleoedd ni ond fe wnaethon nhw gymryd eu rhai nhw.”

Fe fydd sgwad Cymru yn cwrdd yn eu canolfan hyfforddi ym Mro Morgannwg yfory, ond mae yna eisoes bryderon ynglŷn â ffitrwydd rhai chwaraewyr.

Torrodd Morgan Stoddart, sgoriodd gais yn erbyn Lloegr, asgwrn yn ei law ac mae’n debyg na fydd ar gael nes gêm yr Eidal mewn tair wythnos.