Barry John (Llun S4C)
Mae cyn-faswr Cymru, Barry John, wedi ymosod yn chwyrn ar y tîm cenedlaethol yn dilyn y gêm yn erbyn Lloegr nos Wener.

Cyhuddodd y tîm o ddiffyg personoliaeth a chreadigrwydd ar ôl iddyn nhw fethu a thorri drwy amddiffyn y gwrthwynebwyr.

Collodd Cymru’n gêm yn erbyn Lloegr o 26 pwynt i 19 ac mae ganddyn nhw gemau oddi cartref yn erbyn yr Alban a’r Eidal o’u blaenau nhw.

“Mae’n rhaid derbyn nawr, hyd y gwelaf i, fod rygbi Cymru mewn cyflwr difrifol,” meddai Barry John wrth bapur newydd y Wales on Sunday.

“Dw i ddim yn cyfeirio yn unig at y perfformiad yn erbyn Lloegr, ond y darlun ehangach yn y rhanbarthau a’r chwaraewyr sy’n dod drwodd.

“Mae pethau wedi mynd yn farwaidd iawn. Mae pethau’n edrych yn ddu ac mae’r rygbi yn ddifeddwl a diflas.

“Mae’r gêm yn erbyn Lloegr yn flaenoriaeth i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr, ond doedd dim adrenalin na phersonoliaeth yn y tîm.

“Does dim syniad sut i dorri’r patrymau a chwarae mewn modd creadigol.”

Dywedodd ei fod yn synnu bod cefnogwyr Cymru yn barod i deithio i Stadiwm y Mileniwm i wylio’r tîm yn chwarae.

“Mae arian yn flaenoriaeth ym mhob cartref erbyn hyn ac rydw i’n synnu bod Stadiwm y Mileniwm yn llawn a’r cefnogwyr mor barod i faddau,” meddai.

“Ond bydd pob cefnogwr ar draws y wlad yn dechrau sylweddoli cyn hir nad oes gan y tîm lawer iawn i’w gynnig.”