Gavin Henson
Mae cyn-ganolwr Cymru, Gavin Henson, wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at symud i Toulon ar ôl cael “cyfle enfawr” gan y Ffrancwyr.

Fe ymunodd y Cymro gyda Toulon ddoe ar ôl cael ei ryddhau o’i gytundeb gyda’r Saraseniaid.

Fe fydd Henson yn chwarae yn yr un tîm a maswr Lloegr, Jonny Wilkinson, ac mae’r chwaraewr amryddawn yn edrych ymlaen at y cyfle.

“Roedd hwn yn gyfle enfawr i mi. Doeddwn i ddim yn gallu gwrthod y cynnig, ac mae’r tywydd yn dda yma hefyd,” meddai Gavin Henson.

Roedd Henson yn anhapus yn safle’r canolwr allanol gyda’r Saraseniaid ar ôl treulio’i yrfa yn chwarae’n rhif 10 neu 12.

“Mae’r Cyfarwyddwr Rygbi, Phillipe Saint-Andre yn awyddus i mi chwarae rhif 12 a mwy neu lai dechrau chwarae’r wythnos nesaf,” meddai.

“Fe fyddai yn safle’r maswr pan fydd Jonny yn absennol. Fe fydd yn brofiad gwych cael chwarae gyda Jonny hefyd.

“Rwy’n credu y bydd y profiad yn dda i mi ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ymarfer dydd Llun.”