Dan Parks
Bydd Dan Parks yn ymuno â Connacht ar ddiwedd y tymor ar gytundeb o ddwy flynedd a fydd yn gweld yr Albanwr yn chwarae yno nes diwedd tymor 2013/14.
Gyda 1,322 o bwyntiau i’w enw, Dan Parks yw prif sgoriwr yng nghynghrair Rabo Direct.
Ef oedd y chwaraewr cyntaf i gyrraedd 1,000 o bwyntiau yng nghyngrair Magners.
Enillodd 67 o gapiau dros ei wlad ers ei ymddangosiad cyntaf i’r Alban yn 2004, gan ennill y diweddaraf yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
‘Profiad a ieuenctid’
Dywedodd Dan Parks: ‘‘Mae wedi bod yn benderfyniad mawr i mi symud o Gaerdydd i Connacht, ond rwyf yn edrych ymlaen. Mae yna gymysgedd o brofiad a ieuenctid yn y garfan, felly mae yna ddyfodol cyffrous iawn i’r clwb yma.”
‘‘Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef, yn ogystal â magu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr Connacht,’’ dywedodd Eric Elwood sy’n rheolwr ar dîm Connacht.