Mae bachwr Lloegr, Dylan Hartley wedi dweud bod sylwadau Warren Gatland amdano wedi’i wneud yn fwy penderfynol fyth ar gyfer gêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe ddechreuodd hyfforddwr Cymru gynhyrfu’r dyfroedd wythnos ddiwethaf trwy gwestiynu natur y Sais a safon ei chwarae.

“Mae’r sylwadau wedi rhoi deg diwrnod i mi baratoi a symbylu fy hun,” meddai Dylan Hartley.

“Ond mae’r symbyliad yno’n barod – mae’n gêm fawr ac rwyf am wneud yn dda yng nghrys Lloegr. Rwy’n edrych ‘mlaen at nos Wener.”

Roedd Warren Gatland wedi cwestiynu safon taflu Hartley i mewn i’r llinell gan ddweud iddo fynd ar chwâl yn chwarae i Northampton yn erbyn Caerlŷr yn ddiweddar.

Ond mae Hartley wedi dweud ei fod yn ffyddiog yn ei allu i berfformio’n dda yn y llinell.

“Fe aeth ambell dafliad yn anghywir yn erbyn Caerlŷr, ond maen nhw’n dîm da ac roedd
yn amlwg eu bod nhw wedi paratoi’n dda,” nododd Dylan Hartley.

“Ond dy’ch chi ddim yn troi mewn i chwaraewr gwael dros nos. Un gêm oedd honna. Mae pethau wedi mynd yn dda ers hynny.

“Mae’r ymarferion wedi mynd yn dda’r wythnos yma ac ry’n ni wedi cael llawer o’r pethau syml yn iawn.”