Mae hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Kris de Scossa wedi enwi dwy chwaraewraig newydd yn y pymtheg cyntaf i wynebu Lloegr dydd Sul.

Fe fydd clo’r Wasps, Ashley Rowlands ac asgellwr Neath Athletic, Charlie Murray yn ennill eu capiau cyntaf yng ngêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Barc Pandy yn Cross Keys.

Mae yna dair chwaraewraig eraill ar y fainc a allai hefyd ennill eu capiau cyntaf dros Gymru, sef Vicky Owens, Sian Williams a Kerin Lake.

Fe fydd y prop, Catrin Edwards, yn arwain ei gwlad am y tro cyntaf tra bod y flaenasgellwraig, Jamie Kift yn ennill cap rhif 80.

Mae’r hyfforddwr a fydd wrth y llyw am y tro cyntaf ddydd Sul yn disgwyl her gan y Saeson.

“Maen nhw wedi dewis carfan gref gyda nifer ohonynt wedi chwarae yng Nghwpan y Byd llynedd,” meddai Kris de Scossa.

“Fe fydd yn brawf da i ni. Rwy’n edrych ‘mlaen i herio Lloegr ac rwy’n siŵr y cawn ni groeso yn Cross Keys.”

Carfan Cymru

Aimee Young (Caerfaddon), Caryl James (Quins Caerdydd), Adi Taviner, (Castell-nedd Athletig), Elen Evans (Dolgellau), Charlie Murray (Castell-nedd Athletig); Elinor Snowsill (Quins Caerdydd), Amy Day (Cross Keys).

Caryl Thomas (Caerfaddon), Rhian Bowden (Cross Keys), Catrin Edwards (Quins Caerdydd), Ashley Rowlands (Wasps), Shona Powell Hughes (Castell-nedd Athletig), Lisa Newton (UWIC), Sioned Harries (UWIC), Jamie Kift (Cross Keys).

Eilyddion- Lowri Harries (Castell-nedd Athletig), Jenny Davies (Waterloo), Vicky Owens (UWIC), Sian Williams (Caerfaddon), Laura Prosser (Quins Caerdydd), Awen Thomas (Cross Keys), Kerin Lake (Neath Athletic).