Mae Prif Hyfforddwr y Gweilch Sean Holley a’r Cyfarwyddwr Hyfforddi Scott Johnson wedi gadael eu swyddi.

Cyhoeddodd y Gweilch bod y ddau yn gadael yn syth heddiw.

Cafodd Steve Tandy ei bendoi i gymryd lle Sean Holley fel Prif Hyfforddwr y Gweilch.

Bydd Tandy, sy’n 32, yn gadael ei glwb presennol Pen-y-bont-ar-Ogwr yn syth, a bydd yn cael ei gefnogi gan yr hyfforddwr blaenwyr presennol Jonathan Humphreys.

“Rwy’n hyderus yn fy ngallu i wneud llwyddiant o’r cyfle yma,” dywedodd Steve Tandy.

“Mae’n swydd anodd, ond rwy’n rhannu uchelgais y Gweilch, ac yn awyddus i chwarae fy rhan er mwyn cyflawni’r dyheadau yna.”

Cytundeb

Mae Sean Holley wedi gadael y rhanbarth yn dilyn “cytundeb o’r ddwy ochr,” ar ôl 9 mlynedd gyda’r clwb.

Roedd sïon ar led ddoe fod Holley ar fin gadael, er bod ganddo dwy flynedd a hanner ar ôl ar ei gytundeb.

Ymunodd Holley gyda’r rhanbarth pan gafodd y Gweilch eu sefydlu yn 2003.

Mae Scott Johnson hefyd wedi gadael yn syth. Roedd disgwyl iddo aros ymlaen tan ddiwedd y tymor cyn ymuno a thîm yr Alban fel dirprwy i Andy Robinson.

Ond yn dilyn datblygiadau ddoe, mi fydd swydd y Cyfarwyddwr Hyfforddi yn wag tan i’r rhanbarth benderfynu os ydyn nhw am benodi rhywun i gymryd ei le.

Cyfle arbennig

“Mae hwn yn gyfle arbennig i fi ac rwy wedi fy nghyffroi wrth ystyried y sialensiau sydd o fy ’mlaen i,” dywedodd Steve Tandy.

Roedd Steve Tandy hefyd yn aelod o glwb y Gweilch o’r cychwyn, ac wedi chwarae 102 gêm dros y Gweilch.

Buodd yn hyfforddi carfan dan-16 y Gweilch, ac yna aeth yn syth i swydd hyfforddi gyda Pen-y-bont yn dilyn diwedd ei yrfa ar y cae ym Mis Mawrth 2010.

Cafodd Pen-y-bont ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn ystod tymor cyntaf Tandy gyda’r clwb, ac mae’n gadael Pen-y-bont yn yr wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

Gêm gyntaf yn erbyn Aironi

Bydd Tandy yn cymryd yr awenau ar gyfer gêm nos Wener yn erbyn Aironi, yn y Gynghrair RaboDirect PRO12.

“Rydyn ni mewn safle da yn y PRO12 gydag wyth gêm i fynd, a’r targed i ni fydd i sicrhau gêm gartref yn y rownd gyn derfynol,” dywedodd Tandy.

“Rydyn ni am gynnal ein safle fel y rhanbarth Cymreig sy’n arwain y ffordd gyda’n record lwyddiannus yn y gystadleuaeth, cystadleuaeth roeddwn i yn ddigon ffodus i’w hennill tair gwaith fel chwaraewr.

“Rwy’n gwybod fod gen i gefnogaeth y chwaraewyr, y gweithlu a chyfarwyddwyr y Gweilch, ac yn gobeithio hefyd fydd y cefnogwyr yn gefnogol i fi, gan ddechrau ar nos Wener.”