Adam Jones
Cyhoeddodd y Gweilch heddiw bod Adam Jones wedi llofnodi cytundeb newydd am ddwy flynedd.

Roedd ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ond mae’r prop pen tynn wedi llofnodi cytundeb fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty tan haf 2014.

“Yn amlwg rwy’n falch iawn ar ôl sicrhau cytundeb newydd,” dywedodd Jones. “Fan hyn oeddwn i am fod, a nawr fod popeth wedi ei wneud, rwy’n awyddus i barhau gyda’r jobyn, i helpu’r Gweilch i fod y gorau gallwn ni fod.”

Mae’r prop o Abercraf wedi bod gyda’r Gweilch ers 2003, ar ddechrau’r cyfnod rygbi rhanbarthol. Mae e wedi ennill 76 cap i Gymru.